SL(6)330 – Gorchymyn Datblygu Arbennig Cynllunio Gwlad a Thref (Safle Rheoli ar y Ffin Gogledd Cymru) (Ymadael â’r UE) 2023

Cefndir a diben

Mae adrannau 59 a 60 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 yn rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru wneud gorchymyn datblygu arbennig sy’n rhoi caniatâd cynllunio ar gyfer datblygiad a bennir yn y Gorchymyn.

Mae’r Gorchymyn datblygu arbennig hwn yn rhoi caniatâd cynllunio (yn ddarostyngedig i amodau) ar gyfer adeiladu a gweithredu safle rheoli ffiniau mewndirol ar gyfer Porthladd Caergybi a mannau parcio ychwanegol ar gyfer hyd at 60 o gerbydau nwyddau trwm ar Lain 9, Parc Cybi, Caergybi.

Mae’r Gorchymyn yn gosod terfynau ar faint a ffurf ffisegol cyfleusterau rheoli ffiniau a mannau parcio cerbydau nwyddau trwm y gall Llywodraeth Cymru ac adrannau ffiniau eu darparu ar y safle. Mae hefyd yn gofyn am adeiladu a gweithredu mesurau lliniaru.


Gweithdrefn

Negyddol.

Gwnaed y Gorchymyn gan Weinidogion Cymru cyn iddo gael ei osod gerbron y Senedd.  Caiff y Senedd ddirymu'r Gorchymyn o fewn 40 diwrnod (ac eithrio unrhyw ddyddiau pan fo’r Senedd: (i) wedi’i diddymu neu (ii) mewn cyfnod o doriad am fwy na phedwar diwrnod) i'r dyddiad y’i gosodwyd gerbron y Senedd.


Materion technegol: craffu

Nodwyd y pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn:

1.    Rheol Sefydlog 21.2(vii) – ei bod yn ymddangos bod anghysondebau rhwng ystyr y testun Cymraeg a’r testun Saesneg

Ceir croesgyfeiriad anghyson rhwng y testunau Cymraeg a Saesneg ym mharagraff 31(3) o'r Atodlen. Mae'r testun Saesneg yn cyfeirio at baragraff 17(2) ond mae’r testun Cymraeg yn cyfeirio at baragraff 16(2). Ymddengys fod y fersiwn Saesneg yn gywir ar sail cyd-destun y darpariaethau perthnasol (mesurau lliniaru sŵn).

 

Rhinweddau: craffu    

Ni nodir unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Mae angen ymateb gan Lywodraeth Cymru.

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

14 Mawrth 2023